 |
 |
 |
Mae ein hegwyddorion preifatrwydd yn arddangos ein hymrwymiad i gadw preifatrwydd a chyfrinachedd yr holl wybodaeth a gasglwn.
Ni fyddwn yn rhannu dim o’ch gwybodaeth cofrestru gyda thrydydd parti heb eich caniatâd dan unrhyw amgylchiadau.
Os ydych wedi cyflwyno gwybodaeth bersonol i ni, medrwch ar unrhyw amser ofyn am ei gweld, gael ei thynnu o’n gwefan, neu ei newid, drwy gysylltu â ni drwy e-bost, llythyr neu ffôn (manylion islaw).
Pa wybodaeth arall ydym ni yn ei chasglu?
Yn ychwanegol i’r wybodaeth a roddir ar eich ffurflen cofrestru, mae ein cyfrifiaduron yn awtomatig yn adalw gwybodaeth ar eich ymddygiad pori drwy’r safle. Dim ond mewn ffurf gronnus y gwneir hyn; ni ddynodir unrhyw ddefnyddiwr unigol. Medrwn adnabod cyfeiriad Darparydd Rhyngrwyd ymwelwyr a’r wlad ond ni fedrwn ddynodi eu cyfeiriadau e-bost neu unrhyw wybodaeth bersonol arall. Cesglir yr wybodaeth hon drwy ‘cwcis’ - i gael gwybodaeth bellach am cwcis, eu defnydd a manylion sut i’w analluo (bydd analluo cwcis yn cyfyngu defnydd llawn y safle hwn) cliciwch yma.
Ni fyddwn yn rhoi’r ystadegau a gasglwn am ymwelwyr i’r wefan ar gael i sefydliadau eraill. Mae’r data cronnus hwn yn gadael i ni olrhain defnydd a chynhyrchu adroddiadau ar sut y defnyddir y safle gan ymwelwyr. Caiff y data hwn ei ddadansoddi’n fewnol i wella’r gwasanaeth a ddarparwn i chi.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn neu arferion y safle hwn, cysylltwch â ni yn:
| E-bost: |
milklinkwebsite@milklink.com |
| neu drwy’r post at: |
Milk Link, 3120 Great Western Court, Hunts Ground Road, Stoke Gifford, Bristol, BS34 8HP |
| neu drwy ffonio |
+44 (0)1454 252301 |
|
|  |
|