 |
 |
 |

Credwch neu beidio, nid yw tafellu caws mor rhwydd ag mae’n swnio. Mae caws yn briwsioni, torri a gwasgu felly mae’r offer iawn yn hanfodol.
Gall caws brwisonllyd meddal chwalu gyda hyd yn oed ddefnydd medrus o gyllell felly er mwyn sicrhau torri’n syth a chywir, defnyddiwch linyn gitâr tenau neu mae fflos deintyddol heb flas wedi’i dynnu’n dyn rhwng eich bodiau yn gweithio lawn cystal.

Mae answdd caws wedi’i gratio yn ychwanegu cyfoeth ac amrywiaeth i basta, pizza, tatws drwy’u croen, brechdannau a salad. Mae gratio hefyd yn ffordd wych i ddefnyddio darnau bach o gaws sydd ar ôl. Cadwch ddarnau o gaws a all fod wedi mynd yn galed neu sych mewn bag plastig yn y rhewgell a gratiwch hwy i’w defnyddio mewn sawsiau a seigiau seiliedig ar gaws. Peidiwch ofni cymysgu gwahanol fathau o gawsiau sydd gennych ar ôl – mae hyn yn ychwanegu mwy o amrywiaeth a blas!

Gall platiaid o gaws wneud cinio gwas fferm, saig cyn pwdin neu swper blasus. Y rheol euraid yw ei gadw’n syml!
Mae un plât ar gyfer y bwrdd, a gaiff ei basio o amgylch, yn fwy cyfleus a chynnil na phlât ar wahân i bawb. Mae dwy owns o gaws y person yn ddigon – peidiwch llethu eich gwesteion. Gweinwch un ai un caws perffaith, dau ar gyfer gwrthgyferbyniad neu dri i ymchiwlio gwahanol flasau ac ansawdd – mae pump yn ormod.
Garneisiwch eich plât caws gyda chnau, ffrwythau sych neu ychydig o siwtne neu gadwolion ond peidiwch gorlenwi’r plât. Gadewch i gaws ddod i dymheredd yr ystafell cyn gweini. Dim ond wedyn y gall gaws cyrraedd ei flas perffaith a’i gymhlethdod. Gweinwch y caws gyda bara a chraceri a ffrwythau ffres ar yr ochr.

Mae caws yn parhau i aeddfedu nes caiff ei fwyta. Ar ôl ei weini, dylai unrhyw gaws ar ôl gael ei ail-lapio a’i ddod yn adran caws neu llysiau eich rhewgell. Caiff y droriau hyn eu gynllunio i roi mwy o leithder ac atal eich caws rhag colli ei wlybaniaeth gwerthfawr. Hyd yn oed well, crewch microhinsawdd llaith yn eich rhewgell drwy gadw eich caws mewn pot terracotta gyda chaead neu flwch tupperware.

Papur memrwn yw’r deunydd gorau ar gyfer lapio caws gartref oherwydd ei fod yn fwy athraidd na phapur plastig neu ffoil, gan alluogi’r caws i barhau i aeddfedu yn naturiol. Mae ffoil alwminiwm yn well na cling-ffilm, a all roi blas plastig i’ch caws. Dim ond ran o’r ffordd y dylid cau bagiau zip er mwyn cadw’r gwlybaniaeth i fewn tra bod y caws yn parhau i anadlu.
|
|  |



|